Dylunio Peirianneg

mss-steps

Mae’r grŵp Peirianneg wedi’i leoli yn Llanelwy yn darparu gwasanaeth dylunio ac adeiladu llawn i’r diwydiant a’r gymuned wyddonol yn ogystal ag i sefydliadau academaidd eraill.

Rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu caledwedd unigryw neu brototeip neu gynhyrchu niferoedd bach sy’n ofynnol yn benodol gan y marchnadoedd awyrofod ac amddiffyn, gwyddorau gofod, meddygol a seryddiaeth. Wedi gweithio gyda rhai o’r cwmnïau blaenllaw a busnesau newydd arloesol mwyaf, rydym yn edrych ar gamu i mewn i farchnadoedd newydd.

Y prif weithgareddau a gynigir yw :

Dylunio a pheirianneg fecanyddol

Gweithio’n agos â chi i ddarparu cydrannau dylunio, yna symud ymlaen i ddogfennu manwl … darllen mwy

Peirianneg Opto-fecanyddol

Dyma sgil arbenigol a gynigir yn Arloesiadau Glyndŵr. Mae’n cwmpasu dylunio a saernïo mecanweithiau a systemau ar gyfer mowntio ac ysgogi cydrannau optegol, bach a mawr… darllen mwy

Ymchwil

Gallwn dargedu deunyddiau a phrosesau newydd. Mae ffyrdd newydd o wneud pethau a all helpu eich cwmni, a gallwn wneud y gwaith caib a rhaw i weld a ydynt yn iawn i chi.

Fel hyn, mae Arloesiadau Glyndŵr yn gweithredu fel adnodd peirianneg i gwmnïau a sefydliadau ledled y byd, gan helpu i gymryd y pwysau oddi ar eich timau a’ch helpu i gyflawni eich nodau. Gallwn ddarparu prosiectau gwybodaeth technegol a chyflawn o’r cysyniad i’w cwblhau, neu i unrhyw gam yn y canol.