Ffabrigo Optegol
Mae Arloesiadau Glyndŵr yn cynnig pecyn un contractwr llawn ar gyfer saernïo opteg fawr, o gaffael i integreiddio. Mae gan y tîm yng Nglyndŵr y profiad a’r wybodaeth i gyflawni cydrannau ac is-osodiadau optegol modern i fanyleb, o fewn cyllideb ac ar amser.
Mae ein proses saernïo optegol yn dechrau gyda chaffael y deunydd swbstrad optegol, y blanc optegol. Mae gennym berthnasoedd da â’r holl brif gyflenwyr o wydr optegol ledled y byd a gallwn ddarparu arweiniad ar fanylion y blanc optegol ar gais. Ar gyfer opteg fwy neu fwy heriol, mae rhai o’n cwsmeriaid yn dewis caffael a rhoi blanc optegol i fanyleb wedi’i chytuno i ni. Gall hyn gwtogi amseroedd danfon ar gyfer yr optig gorffenedig a gall hefyd fod yn fwy cost effeithiol. Fel arall, gallwn gynnwys manyleb a chaffael y blanc optegol yng nghwmpas unrhyw brosiect.
Gellir darparu gwasanaeth gweithgynhyrchu ysgafn o swbstradau drych hefyd. Proses yw gweithgynhyrchu ysgafn lle caiff deunydd ei beiriannu allan o wyneb cefn yr opteg heb effeithio ar gryfder, anhyblygedd neu ffurf arwyneb y drych. Defnyddir y dechneg hon yn aml ar gyfer tynnu màs o systemau a fydd yn yr awyr neu i leihau inertia thermol. Gall gweithgynhyrchu ysgafn gael gwared ar 80% o’r deunydd swbstrad optegol ar gyfer rhai cymwysiadau. Mae gennym y gallu i ddylunio patrymau gweithgynhyrchu ysgafn ar gyfer cymwysiadau penodol. Gallwn gynnig gwasanaeth gweithgynhyrchu ysgafn hyd at 380mm diamedr yn fewnol a gallwn weithio â chyflenwyr gwydr optegol i gynhyrchu blanciau optegol ysgafn mwy.
darllen mwy am weithgynhyrchu ysgafn

Mae blanciau optegol modern yn cael eu cyflenwi rhan amlaf gyda’r arwynebau optegol wedi’u llifanu i ffurf sfferig neu blanol. Mae gan rai cyflenwyr gwydr optegol y gallu i gyflenwi arwynebau wedi’u llifanu asfferig, a all leihau cyfanswm cost saernïo’r optig gorffenedig. Bydd rhagor o driniaeth yn ofynnol ar yr arwyneb hwn cyn gloywi cywirol, neu batrymu. Mae gennym y gallu i gynhyrchu ystod o arwynebau gan gynnwys amgrwm, ceugrwm, fflat (planol), sfferig, asfferig neu ffurfrydd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau optegol. Gallwn wirio’r arwyneb optegol wedi’i lifanu’n fân hwn i gywirdeb o well na 5 µm gan ddefnyddio un neu fwy o ddulliau mesur cyswllt sydd gennym yn fewnol.
Ar gyfer gloywi cywirol, mae dull mesur optegol yn ofynnol ar gyfer pob un o’r arwynebau optegol sydd eu hangen. Bydd y prawf hwn yn cael ei ddefnyddio i wirio a yw’r optig wedi’i orffen, ac os nad ydyw, pa gyfeiliornadau y mae angen eu cywiro o hyd ar yr arwyneb optegol cyn bod y darn wedi’i orffen. Mae profion gwahanol yn ofynnol ar gyfer presgripsiynau gwahanol o arwynebau optegol a saerniir.
Mae’r prawf gwirio hwn yn ymyriadurol a gall y dyluniad prawf optegol fod mor unigryw â’r arwyneb optegol a saerniir. Cyflwynir ein dyluniad prawf arfaethedig ar gyfer pob arwyneb optegol i’r cwsmer fel rheol, fel rhan o’r broses ymgeisio.
- Ar gyfer saernïo opteg dra-chywir unigryw, mae’n rhaid dylunio a gweithgynhyrchu offer saernïo ar gyfer trin yr optig
- Cefnogi’r optig yn ystod gloywi
- Cefnogi’r optig yn ystod profi terfynol
- Integreiddio’r optig i’w gydosodiad cell terfynol
Mae’r offer hwn yn faes peirianneg arbenigol a gall gwmpasu cyfran sylweddol o brosiect saernïo. Mae gan y tîm yng Nglyndŵr lawer o brofiad wrth ddylunio sut i gefnogi a thrin opteg fawr. Os yw’n ofynnol, gall ein tîm peirianneg ddylunio’r trefniant mowntio terfynol ar gyfer yr optig i mewn i’ch system hefyd. (dolen).
Ar gyfer opteg lai, fel rheol mae gennym offer priodol ar gael eisoes. Fodd bynnag, ar gyfer opteg fawr neu fwy cymhleth, rhaid cynnwys dylunio a gweithgynhyrchu’r offer fel ffactor yn y rhaglen saernïo ac amserlenni’r prosiect.
Mae’r cysyniad mesuriad optegol (metroleg), yr offer gweithgynhyrchu a’r dyluniad ysgafn oll yn rhan o’r broses cyn-cynhyrchu a’r ffordd orau o’u gwneud yw mewn perthynas â’i gilydd. Gellir cynnal y rhan helaeth o’r gwaith yma wrth i’r blanc gael ei brosesu a’i ddarparu. Mae dyluniad y system gefnogol yn ddilyniant naturiol o’r gwaith hwn gan y bydd y tîm eisoes yn gyfarwydd â’r system.
Er bod gennym beiriannau gloywi lapio confensiynol ar ein safle, fel arfer fe gwblheir y gwaith gloywi ar un o’n peiriannau CNC ar gyfer optegau mwy o faint. Gall y broses weithgynhyrchu gymryd wythnosau lawer, yn ddibynnol ar faint yr arwyneb optegol a’r cywirdeb sydd ei angen. Mae’r broses weithgynhyrchu yn cynnwys un neu ragor o gamau gloywi gyda mesuriadau rhyngferometrig yn digwydd rhyngddynt yn ein labordy metroleg. Ar gyfer optegau sydd yn 1m neu fwy mewn maint, cwblheir y mesuriadau rhyngferometrig yn y fan a’r lle ar peiriant gloywi, gyda’r optig wedi ei osod ar declyn metroleg cadarn i ysgwyddo’r gwaith.
Darllenwch ragor am wasanaethau integreiddio
Pan gaiff yr arwyneb optegol ei loywi i’r cywirdeb dymunol, a all fod yn rhywbeth i lawr i gyfeiliornad arwyneb RMS o 4nm, glanheir yr optig a’i dynnu
o’r broses loywi. Ar y cam hwn, rhoddir yr adroddiad gwirio terfynol ar gyfer yr optig i’r cwsmer. Os yw’n ofynnol, gallwn araenu’r optig i’ch manylebau a’i integreiddio hefyd i’w fownt neu gell derfynol. Gellir cwblhau’r cam terfynol hwn mewn amgylchedd ystafell lân os oes angen.
Ar ôl ei orffen, caiff yr optig ei becynnu mewn cynhwysydd cludo arbennig, a’i ddanfon i’r cwsmer gydag adroddiad prosiect terfynol.




