Metroleg Arwyneb

IMGP2377

Mae mesureg yn rhan annatod o unrhyw broses gynhyrchu: er mwyn bodloni gofynion y cwsmer, rhaid mesur rhannau a chydosodiadau drwy gydol y broses.

Mae gan Arloesiadau Glyndŵr sgiliau ac offer arbenigol ar gyfer mesur cydrannau tra-chywir, gan gynnwys cydrannau optegol.

Mae natur gweithio i oddefiannau tra-chywir yn golygu bod rhaid asesu pob arwyneb fel rhan o’r broses fesur.

Mae rhan o’r broses saernïo yn cynnwys dylunio a defnyddio dulliau profi cyswllt ac optegol.

Mae hyn yn cynnwys offer cefnogi opto-fecanyddol a grëwyd i gyd-fynd â’r opteg eang sy’n cael ei gwneud, gan sicrhau bod y fesureg yn cyd-fynd â’r mecanwaith cefnogi optegol terfynol.

Mae gan ein peirianwyr dylunio brofiad o greu offer a fydd yn sicrhau bod cynhyrchu a phrofi cydrannau manwl yn bodloni’r manylebau.

Mae gan y safle gyfleusterau da gydag offer a chyfarpar mesur o lefel uchel, darllen mwy ar ein tudalen adnoddau.

 

Yn ogystal, gallwn ddatblygu profion ac offer wedi’u teilwra ar gyfer cymwysiadau mesureg trydydd parti.