Dylunio Mecanyddol
Dylunio mecanyddol yw un o’r galluoedd craidd yng Nglyndŵr, mae’n bwydo i mewn i bopeth a wnawn, o’r gosodiadau, offer a chyfarpar sy’n ofynnol ar gyfer gloywi, i ddylunio offer mesur mewnol arbenigol, yn ogystal â’r gwaith prosiect a wnawn ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid. Mae’r tîm yn grŵp o beirianwyr amlddisgyblaethol, gyda phrofiadau o ystod o ddiwydiannau. Y nod yw darparu datrysiadau i broblemau peirianneg. Bydd hyn hefyd yn ymestyn i gynnwys systemau trydanol,
rheoli mudiant a rhyngwynebau meddalwedd.
Gan weithio i egwyddorion sylfaenol, byddwn yn adolygu eich cais, yna’n creu datrysiadau dylunio wedi’u saernïo, arloesol. Modelir a dilysir y dyluniadau hyn yn defnyddio technegau elfen feidraidd neu draddodiadol i sicrhau eu bod yn bodloni eich gofynion. O’r dyluniadau hyn, rydym yna’n cynhyrchu’r holl ddogfennau a lluniadau gweithgynhyrchu gofynnol.


