Sgleinio Optegol Manwl

polishing2

Mae Arloesiadau Glyndŵr yn dylunio a chynhyrchu cydrannau a chydosodiadau optegol cymhleth, tra-chywir, nano. Mae gennym lawer o brofiad wrth gynhyrchu cydrannau optegol tra-chywir. Gall y tîm brosesu

amrywiaeth o ddeunyddiau, hyd at 2.0m mewn diamedr.

 

Mae gennym y gallu i gynhyrchu ystod o arwynebau gan gynnwys amgrwm, ceugrwm, fflat (planol), sfferig, asfferig neu ffurfrydd.

 

Gan ddefnyddio proses newydd sy’n goresgyn rhai o anfanteision dulliau gloywi traddodiadol, mae’r dechnoleg newydd ei datblygu yn cynnwys defnyddio technegau gloywi CNC a mesur yn y fan a’r lle. Mae hyn yn ein galluogi i gynhyrchu opteg gymesur, asfferig neu ffurfrydd sy’n ofynnol mewn prosiectau manyleb uchel. Y canlyniad yw lefel uchel o hyblygrwydd proses, amseroedd cynhyrchu llai ac ansawdd gwell.

Fe’n cefnogir gan gyfleusterau mesur â’r holl gyfarpar gan gynnwys tyrrau profi optegol 10m a 3m ailgyfluniadwy a meinciau profi optegol pwrpasol. (darllen mwy ar ein tudalen   mesureg).

Mae gloywi confensiynol yn dal i chwarae rhan yn yr hyn a wnawn, mae gennym yr offer, cyfarpar a gwybodaeth i loywi yn defnyddio dulliau traddodiadol.

 

580mm yn cael ei loywi yn defnyddio lapio confensiynol, yn defnyddio techneg lapio pyg o’r agorfa i gyd.

Ymhlith yr opteg y gallwn ei chynhyrchu mae:

Paraboloidau oddi ar yr echelin;

Asfferau onglau eang, cydraniad uchel; Drychau asfferig a fflat

Defnyddir y drychau a gynhyrchwn yn gyffredinol ar gyfer:

  • Lensys camera cydraniad uchel ar gyfer teithiau gofod heb beilot
  • Drychau/lensys mawr ar gyfer telesgopau seryddiaeth y ddaear
  • Opteg ar gyfer telesgopau lloeren ac ar y ddaear; Systemau drych pelydr-X;
  • Opteg Brawf

Mae rhai enghreifftiau o’r prosiectau yr ydym wedi’u cwblhau ar ein tudalen astudiaethau achos.

Os oes gennych brosiect sy’n mynnu opteg fawr, mae ein rhestr wirio yn ffordd dda o sicrhau eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i roi cynnig manwl gywir.