Kent Periscopes

Cefndir

Sefydlwyd Kent Periscopes (cwmni Gooch & Housego) yn 2005 mewn ymateb i gyfle a gododd, o ganlyniad i ailstrwythuro’r ochr gyflenwi o’n marchnad. Ers hynny, rydym wedi ymestyn ein galluoedd cynnyrch a gwasanaeth. Rydym wedi tyfu’n gryf a phroffidiol o’r cychwyn un, a gyda llyfr archebion sy’n tyfu, rydym nawr ar drothwy cyfnod o dwf a buddsoddi pellach. O fis Mai 2010 i fis Mai 2015, llwyddom i gyflawni twf o 400% yn ein refeniw. Symudom o OpTIC yn 2016 gyda dros 50 o weithwyr, ond rydym yn dal i fod ar safle Parc Busnes Llanelwy.

Mae Canolfan Dechnoleg OpTIC wedi ein helpu gyda:

Staff sydd â phrofiad optegol; Cyflenwyr;

Cyngor ar dechnoleg; Cyngor ar ddylunio; Cymorth y llywodraeth;

Cyfleusterau a gwasanaethau

Lle addas – glân, aer cywasgedig, dirgryniad isel

Arbenigedd wrth law – galluoedd profi ymyriadurol a dylunio optegol

Profi – siambr fesureg a thermol; Hyblygrwydd i ehangu

Cysylltiadau â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam

Dyfyniad

“Nid oes amheuaeth bod Canolfan Dechnoleg OpTIC wedi bod yn rhan allweddol o dwf llwyddiannus ein cwmni. Dros y 3 blynedd diwethaf, rydym wedi tyfu o fod ag o dan 20 i 50 o bobl, ac mae OpTIC wedi hwyluso’r ehangiad hwn. Mae ei gallu i ymateb yn gyflym i’n hanghenion newidiol yn allweddol i gwmni sy’n tyfu fel un ni. Mae OpTIC wedi darparu’r cyfleusterau a’r gwasanaethau iawn i ni ar yr adeg iawn. Mae’r arbenigedd a’r offer wrth law wedi bod yn amhrisiadwy – megis dylunio optegol, laserau, mesureg a siambr thermol ar gyfer profi. Hefyd y cymorth busnes, gwnaeth mentora a rhwydweithio fyd o wahaniaeth i ni.

 

John Oliver, Managing Director, until January 2017