Pen-blwydd OpTIC yn 20 oed – 5ed Mawrth 2025
Canolfan Dechnoleg OpTIC – Digwyddiad Dathlu 20fed Pen-blwydd – 5ed Mawrth 2025
Dathlodd Canolfan Dechnoleg OpTIC ei phen-blwydd nodedig yn 20 oed trwy gynnal digwyddiad arbennig ddydd Mercher 5ed Mawrth.
Croesawodd y digwyddiad nifer fawr o weithwyr proffesiynol y diwydiant a chyn gydweithwyr i fyfyrio ar lwyddiannau’r gorffennol yn OpTIC, yn ogystal ag edrych ymlaen at brosiectau a datblygiadau cyffrous yn y dyfodol.
Cafwyd anerchiad agoriadol gan Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam, yr Athro Paul Davies, ac yna cafwyd cyfres o gyflwyniadau llawn gwybodaeth gan yr Athro Caroline Gray OBE, Arloesiadau Glyndŵr, PlantSea, OcuSight a thîm Menter ac Arloesi Prifysgol Wrecsam.
Roedd cyfleoedd hefyd i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu atgofion gyda digon o wynebau cyfarwydd sydd i gyd wedi cyfrannu at lwyddiant OpTIC dros y 2 ddegawd diwethaf.
Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd y digwyddiad a dyma i’r 20 mlynedd nesaf a thu hwnt!




