Kairos Biotech Ltd yn cael buddsoddiad dilynol o €1m
Kairos Biotech Ltd yn cael buddsoddiad dilynol o €1m ar gyfer theranosteg trawsblannu
Llanelwy, Y Deyrnas Unedig, 17 Ebrill 2024
Heddiw, cyhoeddodd Kairos Biotech Ltd y bydd yn cael buddsoddiad dilynol o €1m gan EchiumBio Holding BV, sef endid o’r Iseldiroedd. Cafodd EchiumBio gyfran o 38.1% o gronfa ecwiti gwanach y cwmni.
Mae rheolwyr Kairos Biotech yn cynnwys y Prif Swyddog Gweithredol a’r sylfaenydd, Dr Mike Bunce, y Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Ben Passey, yr Uwch-wyddonydd Hayley Hogan a’r Cyfarwyddwyr Buddsoddi Dr Wieste Mulder.
Mae labordy datblygu Kairos Biotech wedi’i lleoli yng Nghanolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Wrecsam yn Llanelwy, Gogledd Cymru.
Cyflawnwyd y trafodiad gyda chymorth cyfreithiol gan Herke van Hulst ac Angela Saldanha yn Osborne & Clarke yn Amsterdam a Catherine Williams o Keystone Law yn Llundain.
Llwyddwyd i gael y buddsoddiad dilynol ar ôl i’r cwmni gyrraedd cerrig milltir arwyddocaol o ran datblygu ei foleciwlau newydd ar gyfer diagnosteg trawsblannu a phosibiliadau defnyddio mewn imiwnotherapi penodol.
Ein dull o ymdrin â thrawsblannu
Er mwyn gallu trawsblannu arennau ac organau eraill yn llwyddiannus, rhaid atal y corff rhag gwrthod yr organ yn imiwnolegol. Yn anffodus, mae nifer o gleifion yn creu celloedd T a chelloedd B sy’n arwain at wrthod yr organ a drawsblannir, gan gyfyngu ar gyfleoedd i drawsblannu. Weithiau, mae rhai cleifion yn gorfod aros am flynyddoedd am drawsblaniad oherwydd ymateb imiwnolegol eu cyrff yn erbyn organ y rhoddwr.
Nod Kairos Biotech yw gwella llwyddiant y broses drawsblannu trwy ddatblygu moleciwlau bach y gellir eu defnyddio i wella diagnosteg ac addasu neu ddileu ymatebion imiwnolegol yn erbyn organ y rhoddwr. Byddwn yn dangos bod modd i’r ‘moleciwlau imiwnoataliedig’ hyn a gaiff eu creu yn y labordy ymyrryd ag ymatebion y claf yn erbyn organ y rhoddwr – a chael gwared â’r ymatebion hynny’n llwyr – mewn ffordd barhaol a hynod benodol. Disgwylir i’r goddefedd hwn i drawsblaniadau fod o fudd enfawr i gleifion hynod sensitif. Bydd yn esgor ar amseroedd aros byrrach ar gyfer trawsblaniadau ac mae’n bosibl y bydd mwy o bobl yn goroesi ar ôl cael trawsblaniad.
Ynglŷn â Kairos Biotech
Cwmni cyfnod cynnar yw Kairos Biotech ac fe’i sefydlwyd gan entrepreneuriaid sy’n hen gynefin â dechrau busnesau biotechnoleg. Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar ddefnyddio moleciwlau bach mewn diagnosteg ac imiwnotherapi. Ein canolbwynt ar y cychwyn yw gwella canlyniadau trawsblannu trwy gael gwared â’r rhwystrau imiwnolegol.
Mae’r sylfaenydd, sef Dr Mike Bunce, yn imiwnolegydd trawsblannu. Mae wedi gweithio yn labordai trawsblannu’r GIG am 20 mlynedd a hefyd mae wedi gweithio am 23 mlynedd yn datblygu cynhyrchion diagnostig in virto moleciwlaidd ac imiwnolegol ar gyfer cwmnïau trawsblannu.
Mae gan Ben Passey, y Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu, 20 mlynedd o brofiad yn y maes lle bu’n gweithio’n bennaf mewn cwmnïau diagnosteg trawsblannu yn y DU ac yn Sweden, gan ganolbwyntio ar genoteipio cymhwysol ac atebion meddalwedd.
Mae Hayley Hogan yn wyddonydd bioleg foleciwlaidd profiadol. Ymunodd â Kairos Biotech y llynedd fel Uwch-wyddonydd ar ôl gweithio am 20 mlynedd mewn diwydiannau biotechnoleg a thrawsblannu yn Unol Daleithiau America ac Awstralia.
Ynglŷn ag EchiumBio Holding B.V.
Mae EchiumBio yn un o ddaliannau preifat Wietse Mulder PhD, a’r endid hwn hefyd yw prif gyfranddaliwr sefydlol Genome Diagnostics BV (GenDx), Genome Products (GenDx Products) a GenDX Products inc. Ym mis Hydref 2022, prynwyd y cwmnïau diweddaraf gan Eurobio Scientific S.A., sef cwmni o Ffrainc.
Kairos Biotech Ltd
Canolfan Dechnoleg OpTIC
Ffordd William Morgan
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL17 0JD
Y Deyrnas Unedig
Cysylltu â Kairos Biotech Ltd
Dr Mike Bunce, Prif Swyddog Gweithredol
Mike.Bunce@KairosBiotech.com
+44 (0)7549823564
EchiumBio Holding BV
Wietse Mulder PhD, Partner Rheoli
w.mulder@echiumbio.com
+31 6 51265864

