Plano-convex window
Mae’r grŵp wedi cwblhau sawl prosiect hynod adnabyddus ar gyfer amrywiol sefydliadau gwyddonol ac uwch-dechnoleg, gan gynnwys y ffenestr fynedfa blano-amrgwm 680mm ar gyfer y JPCam, y camera cryogenig 1,200 Megapicsel mawr, ar gyfer Telesgop J-PAS.
Yn ogystal â’r gloywi tra-chywir a’r araenu sbectrwm eang, roedd gofyn integreiddio’r ffenestr i’w ffrâm gyrogenig mewn amgylchedd ystafell lân a gwirio ei chydymffurfiaeth â’r meini prawf heriol o ran gwactod a gollyngiad.
Roedd y prosiect yn ddefnydd llwyddiannus o’r arbenigedd o fewn y grŵp o loywi optegol tra-chywir, mesureg optegol yn ogystal â dylunio a saernïo’r offer cynhyrchu ac amgylchedd profi gofynnol. Roedd agweddau eraill ar y prosiect hefyd yn cynnwys rheoli’r is-gontract ar gyfer araenu’r ffenestr a chydweithio ag e2v, gweithgynhyrchwr y camera i sicrhau y câi gofynion y cwsmer eu bodloni.
Mae’r cwsmer, Centro de Estudios de Fisica del Cosmos de Aragon sy’n gyfrifol am gyflenwi’r JPCam i’r Observatorio Astrofísico de Javalambre wedi mynegi ei fodlonrwydd fel a ganlyn:
“Dymuna tîm J-PAS gydnabod y gwaith rhagorol a wnaethpwyd gan y staff o beirianwyr a rheolwyr yn Arloesiadau Glyndŵr. Roedd cyflenwi’r cryostat i’r OAJ yn llwyr ddibynnol ar gwblhau’r strwythur ffenestr fynedfa yn llwyddiannus ac rydym yn ddiolchgar iawn am ymdrechion OpTIC a gefnogodd y gwaith sylweddol hwn.”
am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect JPCam, ewch i’w gwefan. http://www.j-pas.org/


